Beth yw ESO?
Cronfa ddata a gwasanaeth gwybodaeth mynediad am ddim yw Ffynonellau Ewropeaidd Ar-lein [ESO]. Ei nod yw cefnogi defnyddwyr i ddeall Ewrop a thu hwnt. Mae’n dod â set gynhwysfawr wedi’i churadu o ffynonellau a gwybodaeth at ei gilydd, sy’n gallu hysbysu pobl sydd â gwahanol lefelau o arbenigedd.
Ers ei lansio, mae ESO wedi’i ddatblygu i fod yn bont rhwng defnyddwyr a realiti esblygol Ewrop, yn ogystal â’r cysylltiadau mwy cymhleth rhwng y Cyfandir a rhanbarthau eraill y byd.
Beth yw nodweddion allweddol ESO?
Mae’r gronfa ddata yn caniatáu i ddefnyddwyr gael y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau diweddaraf sy’n ymwneud ag Ewrop, ei gwledydd a’i rhanbarthau, ei chymunedau a’i sefydliadau. Mae’n cynnig detholiad arbenigol o wybodaeth ar amrywiaeth o bynciau perthnasol o ystod eang iawn o ffynonellau gwybodaeth – ffynonellau cynradd a swyddogol, sylwebaeth a dadansoddiadau, crynodebau ac adroddiadau yn y cyfryngau, erthyglau mewn cyfnodolion, blogiau, monograffau a gwerslyfrau academaidd, ymhlith adnoddau eraill. Lle bynnag y bo hynny’n bosibl, darperir dolenni i gynnwys llawn y ffynonellau. Ochr yn ochr â’r dolenni, bydd tîm ESO yn aml yn paratoi trosolwg, gan roi cyd-destun neu esboniad rhagarweiniol i’r mater a gwmpesir gan y ffynonellau a restrir.
Mae ESO hefyd yn cynnig ei set ei hun o ganllawiau gwybodaeth. Nod y rhain yw cynorthwyo defnyddwyr i ddeall realiti neu fater, polisi neu sefydliad Ewropeaidd penodol trwy gynnig trosolwg iddynt a amlinellwyd gan ein tîm o arbenigwyr. Mae hefyd yn cynnwys set o ffynonellau defnyddiol sy’n rhoi rhagor o wybodaeth i’r rhai sydd â diddordeb mewn treiddion’ ddyfnach i’r pwnc. Mae’r set hon o gynhyrchion annibynnol yn ehangu’n gyson ac mae tîm ESO yn agored i ystyried awgrymiadau gan ddefnyddwyr ar ganllawiau newydd posib.
Yn drydydd, mae’r gwasanaeth gwybodaeth yn darparu nodwedd hysbysiadau ebost wythnosol, sy’n caniatáu i danysgrifwyr dderbyn nodyn atgoffa o unrhyw gynnwys perthnasol a ychwanegir at y gronfa ddata yn y pynciau, y gwledydd neu’r sefydliadau y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt.
Sut mae ESO yn gweithio?
Mae’r gronfa ddata yn cynnwys casgliad o gofnodion unigol sy’n darparu mynediad i filoedd o ffynonellau a ddewiswyd yn arbenigol. Gall y rhain fod yn wefannau, dogfennau a chyhoeddiadau adnabyddus neu lai adnabyddus gan unrhyw randdeiliaid perthnasol – o lywodraethau rhanbarthol a chenedlaethol i sefydliadau rhyngwladol (fel yr Undeb Ewropeaidd), o felinau trafod i ganolfannau ymchwil, o gyhoeddwyr cydnabyddedig i brosiectau gwybodaeth sy’n dod i’r amlwg.
Rhennir y cofnodion yn dri chategori gwahanol:
· Cofnodion Llyfryddol – Cofnodion sy’n cynnwys un ffynhonnell yn unig, y gellir eu cyfiawnhau gan eu dadansoddiad manwl neu eu hyd. Disgwylir i werslyfrau, monograffau, adroddiadau manwl a chyhoeddiadau mawr eraill ymddangos yn y cofnodion hyn. Yn gyffredinol, darperir gwybodaeth lyfryddol a throsolwg o’r cynnwys.
· Cofnodion Cymysg – Cofnodion sy’n cynnwys ffynhonnell flaenllaw a set o ffynonellau cysylltiedig sy’n ychwanegu at y wybodaeth a ddarperir gan y brif un. Mae’r cofnodion hyn yn cael eu diweddaru wrth i ddatblygiadau, ffynonellau a/neu wybodaeth newydd ddod i’r amlwg. Yn y cofnodion hyn, mae tîm ESO yn cydnabod bodolaeth y ffynhonnell awdurdodol sy’n ymwneud â’r polisi, y ddogfen neu’r mater perthnasol sy’n haeddu cael ei amlygu fel y ‘Ddolen Ffynhonnell’ blaenllaw. Yn gyffredinol, darperir gwybodaeth lyfryddol a throsolwg o’r polisi, y ddogfen neu’r mater.
· Cofnodion Deinamig – Cofnodion sy’n cynnwys set o ffynonellau perthnasol, sydd gyda’i gilydd yn rhoi mewnwelediad cynhwysfawr i unrhyw fater perthnasol. Nid yw’r tîm ESO yn cydnabod unrhyw ffynhonnell flaenllaw ar y pwnc. Mae’r tîm hefyd yn datblygu trosolwg ar y mater. Mae’r cofnodion hyn yn cael eu diweddaru wrth i ddatblygiadau, ffynonellau a/neu wybodaeth newydd ddod i’r amlwg.
Y ffordd hawsaf o ddefnyddio’r gronfa ddata yw trwy ddefnyddio’r opsiwn chwilio syml sy’n amlwg i’w weld ar yr hafan. Mae hyn yn chwilio unrhyw deitl a chynnwys sy’n cynnwys yr allweddeiriau a fewnosodwyd gan y defnyddiwr. Fel arall, gellir defnyddio’r opsiwn Chwilio Uwch – mae’n caniatáu i ddefnyddwyr chwilio yn ôl Teitl, yn ôl Awdur, yn ôl Teitl y Gyfres yn ogystal ag Allweddair. At hynny, gellir hidlo chwiliadau yn ôl gwlad, rhanbarth neu sefydliad rhyngwladol.
Mae’r fersiwn newydd o Ffynonellau Ewropeaidd Ar-lein hefyd yn cynnig mynediad i’r archif sy’n ymwneud â gwahanol feysydd ym mhob cofnod. Mae hyn yn arbennig o berthnasol ar gyfer Tagiau Pwnc ac Allweddeiriau Pwnc. Mae rhai o’r swyddogaethau hyn yn cael eu datblygu o hyd gan dîm ESO ac mae gwelliannau posibl i rai swyddogaethau sy’n ymwneud â thagiau ac allweddeiriau eisoes wedi’u nodi.
Pa mor aml y mae ESO yn cael ei ddiweddaru?
Dewisir y cynnwys yn ddyddiol gan dîm ESO. Gellir creu cofnodion a’u hychwanegu at y gwasanaeth, neu gellir diweddaru cofnodion presennol gyda datblygiadau neu wybodaeth bellach yn ôl yr angen. Mae’r rhain ar gael ar unwaith ar y gronfa ddata a gellir eu cyrchu’n hawdd trwy’r Hafan, yn yr adran Cofnodion Diweddaraf.
Ein nod yw adolygu a diweddaru’r Canllawiau Gwybodaeth yn flynyddol a chaiff rhai newydd eu creu yn unol ag adborth gan ddefnyddwyr, anghenion a nodwyd gan dîm ESO ac argaeledd adnoddau.
Pwy fydd yn gweld ESO yn ddefnyddiol?
Dyluniwyd ESO i helpu ystod eang iawn o ddefnyddwyr i ddod o hyd i wybodaeth â dimensiwn Ewropeaidd. Defnyddwyr allweddol yw dinasyddion, myfyrwyr, ymchwilwyr, academyddion, llyfrgellwyr, arbenigwyr gwybodaeth, swyddogion y llywodraeth, llunwyr polisïau, cyrff anllywodraethol, sefydliadau corfforaethol a phroffesiynol.
Oni allaf ddod o hyd i’r holl wybodaeth hon am ddim ar y we?
Rydym i gyd yn defnyddio amrywiaeth o wasanaethau a thechnegau i ddod o hyd i wybodaeth. Heb os, mae peiriannau chwilio cyffredinol yn ddefnyddiol, gan eu bod yn cynnig yr holl ffynonellau a allai fod ar gael i ddefnyddwyr ar bwnc penodol. Fodd bynnag, mae ESO yn mynd ymhellach, gan gynnig gwasanaeth gwybodaeth Ewropeaidd pwrpasol i’w ddefnyddwyr trwy ddethol arbenigwyr, ystod eang o ffynonellau a sylw, ynghyd â chynnwys gwerth ychwanegol.
Yn y pen draw, nod tîm ESO yw cefnogi defnyddwyr i lywio drwy’r wybodaeth ormodol sydd ar gael, gan ddefnyddio ei arbenigedd i ddewis y ffynonellau hynny yr ystyrir eu bod yn gredadwy ac yn ddefnyddiol a’u rhoi at ei gilydd mewn un set gydlynol. Bydd hyn yn ychwanegu at naratif wedi’i ddrafftio’n arbenigol pryd bynnag y bo angen, gan gynnig y cyflwyniad neu’r trosolwg sydd ei angen yn aml.
Pwy sy’n ychwanegu cynnwys at ESO?
Mae’r gronfa ddata a’r gwasanaeth gwybodaeth yn cael eu cynnal a’u rheoli gan Canolfan Wybodaeth Ewropeaidd, canolbwynt gwybodaeth Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol ym Mhrifysgol Caerdydd. Golygydd Gweithredol ESO yw Frederico Rocha, Rheolwr Canolfan.
Mae tîm ESO craidd sydd wedi’i leoli yn Canolfan Wybodaeth Ewropeaidd yn sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ddiweddaru a’i ddatblygu bob dydd. Fodd bynnag, mae nifer o lyfrgellwyr ac arbenigwyr gwybodaeth ar draws Ewrop yn cynnig cyfraniad gwerthfawr i ddatblygiad y gronfa ddata hefyd. Hoffai EDC Caerdydd ddiolch i gydweithrediad a chefnogaeth hirsefydlog ein tîm estynedig o arbenigwyr yn y Llyfrgell Brydeinig, Prifysgol Zagreb (Croatia), Prifysgol Sapienza yn Rhufain (yr Eidal), Prifysgol Francisco de Vitoria (Sbaen), Prifysgol Ca ‘Foscari o Fenis (yr Eidal), Llyfrgell Genedlaethol Estonia, Prifysgol Milan (yr Eidal), a Phrifysgol Tartu (Estonia).
Cysylltwch â thîm ESO os ydych chi am ddod yn gyfrannwr at y gronfa ddata.
Gyda phwy y dylwn gysylltu i gael mwy o wybodaeth am ESO?
Ar gyfer ymholiadau golygyddol a chymorth technegol, adborth neu awgrymiadau ar gyfer cynnwys, ynghyd â chymorth hyfforddi, cysylltwch â thîm ESO trwy ebost: eso@caerdydd.ac.uk.