Datganiad hygyrchedd ar gyfer Ffynonellau Ewropeaidd Ar-lein (ESO)
Mae’r datganiad canlynol yn esbonio sut mae gwefan Ffynonellau Ewropeaidd Ar-lein (ESO) (www.europeansources.info) yn bodloni Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Cheisiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae’r wefan hon yn cael ei chynnal gan Wasanaeth y Llyfrgelloedd ym Mhrifysgol Caerdydd. Rydym ni am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, golyga hynny y dylech chi allu:
· newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
· chwyddo i mewn hyd at 300% heb fod y testun yn cael ei golli oddi ar y sgrîn
· llywio drwy’r rhan fwyaf o’r wefan yn defnyddio bysellfwrdd yn unig
· llywio drwy’r rhan fwyaf o’r wefan yn defnyddio meddalwedd adnabod llais
· gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan yn defnyddio darllenydd sgrîn
Pan rydym yn cyhoeddi gwybodaeth ar y wefan hon, byddwn yn:
· strwythuro cynnwys yn dda
· defnyddio iaith seml (ac eithrio geiriau academaidd neu wyddonol lle nad oes dewis arall)
· defnyddio brawddegau byr
· esbonio acronymau
· ysgrifennu testun clir ar gyfer dolenni
· gwneud delweddau a fideos yn hygyrch
· sicrhau bod nodweddion newydd yn gweithio ar dechnolegau cynorthwyol
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Er ein bod wedi ceisio sicrhau hygyrchedd ein gwefan, mae rhai cyfyngiadau y gwyddom amdanynt. Mae’r rhain wedi’u nodi isod, ynghyd â’r gwaith a awgrymir i’w datrys a/neu ein strategaeth hirdymor ar gyfer mynd i’r afael â’r cyfyngiadau hyn.
Ar hyn o bryd rydym yn ymwybodol o’r problemau posibl canlynol yr ydym yn ceisio eu gwella:
· Weithiau gall chwaraewyr fideo a sain wedi’u hymgorffori fod yn anodd eu defnyddio gyda thechnoleg gynorthwyol;
· Nid yw ffeiliau PDF a dogfennau hŷn bob amser yn hygyrch;
· Efallai na fydd nodweddion allanol (fel Twitter) bob amser yn cydymffurfio â gofynion hygyrchedd;
· Efallai na fydd gwefannau rydym ni’n cysylltu â nhw bob amser yn cydymffurfio â gofynion hygyrchedd.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen i chi gael gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print mawr, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu Braille:
· Ebostiwch: eso@caerdydd.ac.uk
· Ffoniwch: +44 (0)29 2087 4262
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb i chi cyn gynted â phosibl.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd ar y wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych yn dod ar draws unrhyw broblemau na restrir ar y dudalen hon neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch ag: eso@caerdydd.ac.uk. Bydd yr adroddiadau’n cael eu trosglwyddo i’r Tîm TG sy’n gyfrifol am y wefan.
Gweithdrefn orfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Ffonau Symudol) (Rhif 2) 2018 (‘y rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyngor a Chefnogaeth ynghylch Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan
Mae Gwasanaeth y Llyfrgelloedd ym Mhrifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Ffonau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n llawn â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 safon AA.
Mae Ffynonellau Ewropeaidd Ar-lein yn darparu mynediad at gynnwys a ddarperir gan gyhoeddwyr a gwerthwyr trydydd parti ac sy’n cael ei gynnal ar eu llwyfannau. Nid oes gennym reolaeth dros hygyrchedd y cynnwys hwn ac nid ydym yn gyfrifol amdano, ond rydym yn gwneud ein gorau glas i weithio gyda’r trydydd parti i wella ei hygyrchedd. Paratowyd y datganiad hwn ar 4 Rhagfyr 2020. Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 4 Rhagfyr 2020. Gwnaethom brofi sampl o ymarferoldeb pob rhan o’r wefan gan ddefnyddio’r adnodd bwyell profi awtomataidd.